Hanes

Hen ddosbarth Ysgol Sul yn Siloh

Agorodd Siloh ar Fai’r 10fed, 1910, pan oedd Ystrad Mynach ei hun yn tyfu’n gyflym o ganlyniad i suddo pwll glo Penallta ym 1905-10. Dyma flynyddoedd mwyaf llewyrchus y diwydiant glo, a blynyddoedd hefyd pan oedd gwres Diwygiad Mawr 1904-5 yn dal yn fyw yng nghalonnau pobl yr ardal.

Ond nid achos newydd oedd Siloh, oherwydd roedd yn ferch eglwys i hen gapel Bethania, yn Heol y Twyn, Ystrad Mynach Isaf. Agorodd y capel hwnnw ei ddrysau ym 1810, pan oedd plas Ystrad Fawr yn galon pentref bychan gwledig Ystrad Mynach. Roedd y plas yn sefyll lle mae’r ysbyty newydd heddiw.

Pan brynodd aelodau Bethania dir ar Heol Bedwlwyn roedd ffocws y pentref yn newid, a’r ardal ei hun yn datblygu’n gyflym. Eu bwriad oedd adeiladu capel mawr, festri a mans ar y tir, ond roedd honno’n fenter rhy uchelgeisiol, a’r festri’n unig a godwyd. Yr adeilad hwnnw fu capel Siloh ar hyd y blynyddoedd nes iddo gau fel capel yn 2004.

Rhannwyd y gwasanaethau rhwng Bethania a Siloh am flynyddoedd a’r un gweinidogion fu’n gwasanaethu’r ddau. Roedd hefyd ysgol Sul ar wahan yn y ddau gapel. Wrth i nifer y rhai na fedrai siarad Cymraeg dyfu, penderfynwyd cynnal Ysgol Sul Bethania yn Saesneg, ac yna’r gwasanaethau hefyd. Parhaodd gweithgareddau Siloh yn Gymraeg hyd y diwedd.

Plac agoriadol Canolfan Gymunedol Gristnogol Siloh

Roedd Siloh’n ganolfan ddiwylliannol yn ogystal â chysegr. Cynhelid dau wasanaeth ar y Sul, ac Ysgol Sul yn y prynhawn, ond roedd hefyd amrywiaeth o gymdeithasau yn cwrdd yno yn wythnosol, a gweithgareddau yn cael eu cynnal oedd yn apelio at holl aelodau’r capel. O 1910 tan ail hanner yr ugeinfed ganrif, y capel neu’r eglwys oedd ffocws bywyd llawer o bobl yn Ystrad Mynach.

Roedd tripiau haf a phartïon Nadolig yr Ysgol Sul yn denu plant o bob oedran, ac yn gyfle i gael hwyl yng nghwmni aelodau eraill y capel a’u teuluoedd. Ar y Sulgwyn byddai holl gapeli’r pentref yn gorymdeithio trwy’r strydoedd, yn cario baneri eu hachosion – a phawb yn gwisgo eu dillad gorau.

Oedfa ddathlu canmlwyddiant Siloh

Mawr oedd gwasanaeth gweinidogion Siloh fel y Parch Oswald Jeffreys a’r Parch Godfrey Jones i bobl Ystrad Mynach, ac fe’u cynorthwywyd yn eu cenhadaeth gan flaenoriaid oedd hefyd yn arweinwyr yn y pentref.

Bu trai ar bob achos crefyddol yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf ac roedd y lleihad yn y nifer a siaradai Gymraeg yn ychwanegu at effaith hynny ar Siloh. Parhaodd dyrnaid ffyddlon i gadw’r fflam ynghyn, ac mae’r fflam honno’n dal i losgi ar ffurf newydd yng Nghanolfan Gristnogol Gymunedol Siloh heddiw.

gan Dr Elin Jones, Cyn aelod o Gapel Siloh ac aelod o bwyllgor hybu Siloh