Yn ystod hanner tymor mis Mai 2015 daeth Eisteddfod yr Urdd i Nelson yng Nghwm Rhymni!
Dyma cyfweliad gan John Roberts (BBC Radio Cymru) hefo rhai o weithwyr Siloh yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Fe wnaeth Siloh rhedeg Pabell Weddi ar y maes lle daeth dros 88,000 o bobl i ymweld â’r bwrlwm a’r hwyl oedd i’w gael.
Ymysg amryw o weithgareddau, gan gynnwys helfeydd drysor Ffrwyth yr Ysbryd, a safleoedd myfyrdod, roedd Siloh yn darparu efengylau newydd beibl.net, oedd yn golygu fod pobl o bob oedran yn medru dysgu ychydig mwy am y ffydd Gristnogol.
Yn ystod yr wythnos cymerwyd 38 Efengyl Luc ac 20 Efengyl Marc gan arddegwyr ac oedolion, a defnyddiwyd dros 200 o daflenni helfa drysor Ffrwythau’r Ysbryd gan y plant.


























